Job 8

Ymateb Bildad: Dylai Job droi at Dduw

1Dyma Bildad o Shwach yn ymateb:

2“Am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i siarad fel yma?
Mae dy eiriau'n wyllt fel gwynt stormus!
3Ydy Duw yn gwyrdroi cyfiawnder?
Ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn ystumio beth sy'n iawn?
4Roedd dy feibion wedi pechu yn ei erbyn,
ac mae e wedi gadael iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gwrthryfel.
5Ond os gwnei di droi at Dduw
a gofyn i'r Duw sy'n rheoli popeth dy helpu,
6os wyt ti'n ddi-fai ac yn byw yn iawn,
bydd e'n dy amddiffyn di,
ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn.
7Er bod dy ddechrau'n fach,
bydd dy lwyddiant yn fawr i'r dyfodol.
8Gofyn i'r genhedlaeth sydd wedi mynd heibio,
meddylia am yr hyn wnaeth pobl ddarganfod ers talwm.
9(Achos dim ond yn ddiweddar y daethon ni i'r golwg, a dŷn ni'n gwybod dim;
a dydy'n dyddiau ni ar y ddaear yn ddim ond cysgod.)
10Byddan nhw'n siŵr o dy ddysgu,
ac esbonio beth wnaethon nhw ei ddeall.
11Ydy papurfrwyn yn gallu tyfu heb gors?
Ydy brwyn yn gallu tyfu heb ddŵr?
12Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i'w torri,
bydden nhw'n gwywo'n gynt na'r glaswellt.
13Dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n anghofio Duw;
mae gobaith yr annuwiol yn diflannu –
14mae fel gafael mewn edau frau,
neu bwyso ar we pry cop.
15Mae'n pwyso arno ac yn syrthio;
mae'n gafael ynddo i godi, ond yn methu.
16Dan wenau'r haul mae'n blanhigyn iach
wedi ei ddyfrio, a'i frigau'n lledu drwy'r ardd.
17Mae ei wreiddiau'n lapio am bentwr o gerrig,
ac yn edrych am le rhwng y meini.
18Ond pan mae'n cael ei godi a'i ddiwreiddio,
bydd yr ardd lle roedd yn tyfu yn dweud
‘Dw i erioed wedi dy weld di.’
19Dyna fydd ei ddiwedd hapus!
A bydd planhigion eraill yn tyfu yn ei le.
20Edrych! Dydy Duw ddim yn gwrthod pobl onest,
nac yn helpu pobl ddrwg!
21Bydd yn gwneud i ti chwerthin unwaith eto,
a byddi'n gweiddi'n llawen!
22Bydd dy elynion yn cael eu cywilyddio,
a bydd pebyll pobl ddrwg yn diflannu.”
Copyright information for CYM